Croeso i Flwyddyn 9 :)

Ehangu geirfa - Paratoi i'r asesiadau gwrando a darllen


Cyflwyniad llafar - tips!


Hefyd, cofiwch am y wefan yma => Cueprompter

Devoirs 9.2 - 8/2/13

Cofiwch bod angen AIL-DDRAFFTIO'r paragraph yn mynegi'r canlynol:
- Pwy sydd yn eich teulu
- Swyddi rhai aelodau o'ch teulu - beth maent yn gwneud a ble maent yn gweithio
- Sut maent yn teimlo am eu swyddi? Il aime/adore/déteste son travail parce que... / Elle aime/adore/déteste son travail parce que...
- Beth hoffech chi wneud yn y dyfodol fel swydd
- Rheswm dros eich dewis!
DEFNYDDIWCH EICH TAFLEN GEIRFA A'R GWAITH YN EICH LLYFRAU I'CH CYNORTHWYO! :)

Beth os ydych yn credu bod eich gwaith yn hollol gywir yn barod? Wel, hoffwn i chi geisio ehangu a gwella'r gwaith trwy ddefnyddio'r syniadau canlynol:
- fedrwch chi ychwanegu geirfa da o'r taflen Iaith Graidd - e.e. d'abord, ensuite, finalement...
- fedrwch chi ychwanegu geirfa da o'r daflen eirfa ar swyddi - e.e. après avoir quitté l'école...
- fedrwch chi ychwanegu aelod arall o'r teulu i'r disgrifiad?
- fedrwch chi ychwanegu'r rhinweddau (qualities) sydd eu hangen ar gyfer y gwneud y swydd rydych yn sôn amdani? (edrychwch ar gefn eich daflen eirfa am frawddegau i'ch cynorthwyo yma)

Monster High en français :)


Dyma ddolen i'ch arwain at safle Monster High yn Ffrangeg. Yno, fe welwch ddisgrifiadau o'r disgyblion a'r athrawon, gweithgareddau a fideos, cynlluniau o'r ysgol a llawer mwy. Amusez-vous bien!

Visitez Monster High

Devoirs 9.1/9.2/9.3: fodey.com - Mes matières

Paratowch gyflwyniad ar eich pynciau ysgol gan ddefnyddio gwefan fodey.com. Defnyddiwch y daflen eirfa sydd wedi gludo yn eich llyfrau a'ch taflen Iaith Graidd CA3 (sydd yn Llyfryn y Disgybl) i'ch cynorthwyo a cheisiwch gynnwys yr holl fanylion o'r rhestr isod:
  • eich enw (enw cyntaf a llythyren cyntaf eich cyfenw os oes angen yn unig - NID enw llawn!) a'ch oedran
  • sôn am o leiaf 6 o'ch pynciau ysgol, gan gynnwys amrywiaeth o farn a rhesymau
  • defnyddio cysyllteiriau neu eiriau trefnu i symud yn llyfn o un frawddeg i'r llall

Teipiwch yn Word, ac yna safiwch eich gwaith (rhag ofn!). Ewch ar safle wê Fodey a dewiswch gymeriad - tomato, tylluan, cath, gwiwer neu flodyn! Copiwch a phastiwch eich gwaith o Word i mewn i'r blwch 'Enter your text here'. Cliciwch ar 'Generate'. Yna, cliciwch ar 'Download your Image' (gyda chaniatad perchenog y cyfrifiadur, wrth gwrs!) a safiwch eich gwaith. Yna, ebostiwch y gwaith i'ch athrawes gan ddefnyddio cyfeiriad ebost yr adran (adran-ffrangeg@dyffrynteifi.org) gan gofio ychwanegu'r ffeil i'r ebost (defnyddiwch 'attach file') - cofiwch roi eich enw a'ch dosbarth yn y llinell pwnc.

Beth os gewch chi drafferth yn cyflawni y gwaith yma?
  • Os gewch chi drafferth gyda'r cynnwys (h.y. beth sydd angen i chi ddweud yn Ffrangeg), ewch i weld eich athrawes mewn digonedd o amser.
  • Os ydych yn cael trafferth yn ebostio'r gwaith, gallwch eich safio ar gof-bin a dod â hwnnw i mewn i'ch athrawes yn lle.
  • Os ydych yn cael trafferth yn lawrlwytho eich ffeil, gallwch gopio'r 'embed/HTML code' yn lle ac ebostio hwnnw.

Cofiwch ddefnyddio hwn fel cyfle i ddangos i'ch athrawes y gorau gallwch wneud yn Ffrangeg! Mi fydd yr esiamplau gorau yn cael eu mewnosod ar y wiki neu ar y blog!

www.fodey.com

Dyma fersiwn Madame James os ydych am syniadau/esiampl:

Create your own Animation


L'école: Les matières

Dyma ymarferion quizlet i chi flwyddyn 9, er mwyn i chi ymarfer eich ffurfiau mynegi barn syml a'r pynciau ysgol i gyd. Defnyddiwch yr holl ymarferion (Flashcards, Learn, Speller a Scatter) i sicrhau eich bod yn dysgu'r geirfa yn drylwyr!



Adolygu: Zut!

Dyma ddolen i'ch arwain at safle all eich cynorthwyo wrth adolygu ar gyfer eich arholiad. Cliciwch ar Flynddoedd 7, 8 neu 9 yn y ddewislen ar ochr chwith y dudalen ac yna ar y topig o'ch dewis. Mae gweithgareddau a gemau amrywiol i'w cwblhau, gan gynnwys ymarferion gwrando. Mae'r safle ar gael am ddim rhwng oriau 4pm - 9am yn ystod yr wythnos (ni gewch mynediad iddo heb dalu yn ystod oriau ysgol).

Zut!

Adolygu: Languages Online

Dyma ddolen i'ch arwain at safle all eich cynorthwyo wrth adolygu ar gyfer eich arholiad. Dewiswch dopig o'r rhestr ac fe welwch restr o weithgareddau rhyng-weithiol i'w cwblhau ar y sgrin, a rhestr arall o daflenni gallwch argraffu.

Languages Online

La mode: Fanny et Corrine parlent de la mode

Dyma fideo o ddwy ferch, Fanny a Corrine, sydd yn eich tywys ar daith o amgylch siopau Efrog Newydd yn sôn am ffashiynau'r Gwanwyn. Gwyliwch y fideo a cheisiwch ddilyn yr hyn maent yn esbonio i chi! Gallwch ei wylio fel fideo ar ei ben ei hun, gyda is-deitlau Ffrangeg, neu gyda is-deitlau Ffrangeg a Saesneg (sori, nid yw'r gwasanaeth yn cynnig cyfieithiad Cymraeg!). Amusez-vous bien!

Fanny et Corrine parlent de la mode

Le passé composé (y gorffennol)

Dyma ddwy gêm bach i'ch cynorthwyo i ddysgu'r ffurfiau cywir o'r passé composé. Amusez-vous bien!





Poèmes d'amour pour le Saint Valentin

Ar ddiwedd yr hanner tymor, gweithiodd rhai aelodau o ddosbarth 9.1 ar ysgrifennu cerddi cariad yn Ffrangeg i ddathlu dydd San Ffolant. Dyma ddolen i fynd â chi at eu gwaith - gallwch adael sylwad iddynt os hoffech, ond cofiwch ddarllen y cyfarwyddiadau ar wneud sylwadau sydd ar ochr dde y dudalen yn gyntaf. Yndydyn nhw'n griw bach rhamantus?! ;)

<3 Les poèmes d'amour <3

Le futur / L'avenir = Y dyfodol

Dyma ddolen i set o ymarferion i chi ar y dyfodol. Cofiwch mai y ferf 'aller' (je vais, tu vas...) + berfenw (berf yn gorffen gyda
-er, -ir, -re) sydd angen defnyddio ar gyfer ffurfio berf yn y dyfodol yn Ffrangeg. Edrychwch trwy'r cardiau fflach sydd ar dop y dudalen gyntaf (mwy nag unwaith os oes angen). Yna, mae 3 gweithgaredd i chi wneud i'ch cynorthwyo i ddysgu'r eirfa yma - mae'r weithgaredd 'Speller' yn arbennig yn un defnyddiol, a hefyd 2 gêm bach i chwarae hefyd. Gobeithio y bydd o gymorth i chi :-)

Quizlet: l'avenir

Devoirs - une page 'linoit' pour vous, Année 9!

Dyma dudalen 'linoit' ble gallwch ychwanegu eich post-its iddo i esbonio beth rydych yn mynd i wneud penwythnos nesaf. Gallwch symud y cefndir i ffeindio lle gwag drwy wneud 'clic a drag' ar y cefndir. Symudwch y lygoden dros teitl y dudalen, ac fe welwch y dewis o post-its. Dewiswch liw ar gyfer eich post-it, cliciwch a theipiwch eich neges. Os oes angen cynnwys acenion, mae'n syniad da i'w deipio yn Word i ddechrau a gwneud 'copio a gludo' ar y post-it wedyn. Cofiwch ddarllen y cyfarwyddiadau ar y post-it mawr melyn cyn dechrau! :-)



Les verbes!

Dyma i chi y ffeiliau MIDI i gael ymarfer eich berfau. Cofiwch ddefnyddio'r symudiadau wrth i chi ymarfer a gofalu am eich ynganu!

Avoir : Bod Gyda (to have)


Etre : Bod (to be)


Aller : Mynd (to go)


Faire : Gwneud (to do)


<div><iframe src="http://linoit.com/users/Madame_James/canvases/La%20t%C3%A9l%C3%A9%2C%20%C3%A7a%20t%E2%80%99int%C3%A9resse%3F?inner=1" scrolling="no" frameBorder="0" style="width:640px;height:480px;border:1px solid black;"></iframe></div>